Erthyglau Cymraeg - West Ham
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd. Dwi'n siŵr fod y rhan fwyaf ohonoch wedi gwneud adduned blwyddyn newydd bellach. Dwi'n gobeithio fod Abertawe wedi gwneud adduned hefyd. Rhywbeth tebyg i "gorffen yn y 10 safle uchaf yn Uwch Gynghrair Lloegr a gwneud popeth yn ein gallu i ennill Cwpan FA Lloegr".
Mae Garry Monk wedi cael blwyddyn lewyrchus wrth y llyw ers iddo olynu Michael Laudrup. Mae'r Elyrch fwy neu lai yn saff o'u lle yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf yn barod ar ôl dechrau gwych i'r tymor. Yn bersonol mi fuaswn i wrth fy modd gweld Monk yn dweud wrth eu chwaraewyr mai mynd ar rediad da yng Nghwpan Yr FA ydi'r flaenoriaeth rhwng rŵan a diwedd y tymor.
Mi oeddwn i yn Tranmere ddydd Sadwrn diwethaf yn sylwebu ar y gêm yn y drydedd rownd. Dwi'n ymwybodol fod Tranmere dair adran yn is nag Abertawe. Er hynny mae pawb yn gwybod fod unrhyw beth yn gallu digwydd yn y gwpan. A gan gofio fod Monk wedi gwneud naw newid i'r tîm gafodd gêm gyfartal yn erbyn QPR Ddydd Calan mi oedd yna sawl un yn ystafell y wasg cyn y gêm yn meddwl fod gan Tranmere gyfle i greu sioc. Ond chwarae teg i chwaraewyr megis Tom Carroll, Jay Fulton a Modou Barrow, sydd wedi bod ar gyrion y tîm cyntaf y tymor yma, mi gymeron nhw eu cyfle ac am y tro cyntaf ers 1991 mi lwyddodd Abertawe i sgorio 6 gôl mewn gêm gystadleuol oddi cartref.
Blackburn oddi cartref yn y bedwaredd rownd ydi'r her nesaf iddyn nhw ac yn barod mae tîm Monk yn ffefrynnau clir i ennill y gêm honno ac i gyrraedd rownd yr 16 olaf. Tymor diwethaf mi gollodd Yr Elyrch yn erbyn Everton yn y rownd honno. Y tymor blaenorol mi gollon nhw yn erbyn Arsenal yn y drydedd rownd. Y gyfrinach i fod yn llwyddiannus yng Nghwpan Yr FA ydi cael ychydig o lwc pan mae'r enwau yn dod allan o'r het. Tydi Abertawe ddim wedi cael hynny yn ystod y ddau dymor diwethaf. Hyd yn hyn y tymor yma mae pethau wedi mynd o'u plaid.
Mae'r cefnogwyr wedi profi dau ddiwrnod bythgofiadwy yn Wembley yn barod dros y pedair blynedd ddiwethaf. Rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth yn 2011 a rownd derfynol Cwpan Capital One yn 2013. Dwi wir yn meddwl fod yna ddigon o allu o fewn y garfan bresennol i gyrraedd rownd derfynol arall 'leni. Pam ddim? Erbyn rownd yr 8 olaf neu'r rownd gyn-derfynol efallai y bydd clybiau megis Arsenal, Manchester City, Chelsea, Spurs a Lerpwl yn canolbwyntio ar eu gemau yn rowndiau olaf Cynghrair Y Pencampwyr a Chynghrair Ewropa. Pwy a ŵyr?
Tydi Cwpan FA Lloegr ddim wedi cael eu hennill gan dîm o Gymru ers 1927. Glas oedd lliw'r cwpan y diwrnod hwnnw. Tybed os mai gwyn fydd y lliw arni 'leni.
**Cofiwch y gallwch wrando ar sylwebaeth o bob gêm Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr yn fyw ar BBC Radio Cymru