Erthyglau Cymraeg - Everton
11th April
Unwaith eto, yn berfformiad disglair yn erbyn Hull ddydd Sadwrn diweddaf.
Fel nes i sôn amdano, mae Gomis yn chwaraewr sydd yn dechrau dangos eu gwerth gyda'r ymdrech o gwmpas bob cornel y maes.
Nid oedd yr hanner cyntaf yn arbennig i unrhyw un a wnaeth wylio o'r eisteddle, wrth i'r Elyrch a Hull ddim dangos llawer o gyffro a chreadigaeth o'r chwiban gyntaf.
Heb law am Ki yn rhoi'r tîm cartref ar y blaen, roedd angen ychydig o newidiadau ar gyfer yr ail hanner. Fe wnaeth Hull ddim helpu eu hunain wrth i David Meyler achosi niwed i Kyle Naughton a gweld y garden goch ar y llinell hanner ffordd.
O ganlyniad i hwn, fe wnaeth Naughton dangos eu bod yn anghyffyrddus iawn ac yn sydyn gellir gweld fod problem ddifrifol o'm flaenau.
Yn newyddion trist iawn oedd clywed fod Naughton yn mynd i fod allan am weddill y tymor, achos mae eu hargraff wedi bod yn arbennig ers eu gem gyntaf ac yn ymuno'r Elyrch.
Ers y digwyddiad hwnnw, wnaeth yr Elyrch dangos rheolaeth unwaith eto, a Hull yn cwympo nôl ar y traed cefn.
Yn sicrhau fod y pwyntiau yn cael eu casglu, wnaeth Gomis rhoi'r bel yng nghefn y rhwyd yn ystod yr amser ychwanegol.
Nawr mae'r Elyrch yn eistedd ar 46 pwynt, mae nhw nawr dim o'n yn ddau bwynt i fwrdd o'i record gorau yn ôl eu profiad yn yr Uwch Gynghrair.
Ni ellir cwyno amdano hwn achos mae Garry Monk wedi bod yn anhygoel y tymor yma.
Tro ar ôl tro mae'r wasg wedi bod yn cyfeirio at eu dibrofiad fel hyfforddwr, ond mae e wedi cyflwyno a datblygu nifer o elfennau newydd i'r garfan sydd yn awr yn profi y sylwadau hwnnw.
Heddiw ni'n gwrthwynebu Everton yn Stadiwm y Liberty.
Yn dîm dwi'n credu sydd wedi colli rhyw sglein y tymor yma wrth iddynt berfformio yn arbennig yn yr ymgyrch diwethaf.
Yn eistedd rhyw 12 phwynt yn is na'r Elyrch, nid yw'n mynd i fod yn gêm hawdd i'r dim cartref wrth i Roberto a'r garfan ennill y tair gem ddiwethaf.
Gobeithio gellir fod yr Elyrch yn fuddugol heddiw a thorri record newydd unwaith eto.