Erthyglau Cymraeg - Arsenal
'Dw i'n siwr fod y daith i'r Emirates yn yr Uwch Gynghrair fis Rhagfyr diwethaf yn un o uchafbwyntiau'r tymor i gefnogwyr Abertawe. Er fod Yr Elyrch wedi trechu Arsenal a Manchester City yn Stadiwm Liberty y tymor blaenorol, hon oedd y tro cyntaf iddyn nhw ennill oddi cartref yn erbyn un o brif glybiau'r gynghrair ers ennill dyrchafiad nôl ym mis Mai 2011. Ddim yn aml mae tîm Arsene Wenger yn cael gwers bêl-droed ar eu maes eu hunain - ond dyna'n union ddigwyddodd y diwrnod yna, efo Michu yn sgorio'r ddwy gôl yn y munudau olaf.
Yn anffodus, dyna'r unig dro i Abertawe guro Arsenal y tymor diwethaf er iddyn nhw wynebu ei gilydd pedair gwaith - dwy waith yn y gynghrair a dwy waith yn nhrydedd rownd Cwpan Yr FA. Arsenal ennillodd 2-0 ar Y Liberty yn y gynghrair, tra y gorffenodd hi'n 2-2 yn y gwpan, cyn i dîm Arsene Wenger ennill y gêm ail chwarae ar Yr Emirates 1-0.
Yr hyn sy'n aros yn y cof am y gemau yma i mi ydi safon y chwarae a'r goliau o'r safon uchaf. Mae hi bob tro'n bleser gwylio'r ddau dîm yn chwarae pan maen nhw ar eu gorau. Y tymor yma, mi gafodd y ddau dîm ddechreuad siomedig i'w hymgyrch yn yr Uwch Gynghrair, ond maen nhw bellach ar rediadau da. Mae Arsenal ar y brig ar ôl ennill pedair gêm yn olynnol, tra fod Abertawe wedi ennill dwy allan o'u tair gêm ddiwethaf. Ac yn dilyn y fuddugoliaeth gyfforddus yn Crystal Palace y penwythnos diwethaf, mae'n edrych yn debyg fod tîm Michael Laudrup yn ôl ar eu gorau.
Ar ôl y gêm yn erbyn Arsenal, mi fydd sylw Abertawe'n troi'n ôl at Gynghrair Ewropa. Yn dilyn y fuddugoliaeth wych yna yn erbyn Valenica wythnos a hanner yn ôl, mae'r Elyrch yn barod mewn sefyllfa gref i gyrraedd y rownd nesaf. St Gallen o'r Swistir fydd yn ymweld â'r Liberty nos Iau, ac mae o'n gyfle gwych i sicrhau tri phwynt arall. Mae cefnogwyr y clwb yn sicr wedi mwynhau eu tripiau tramor i Sbaen, Rwmania a Sweden yn barod y tymor yma. A'r ffordd maen nhw'n chwarae ar y funud - dwi'n siwr y bydd llawer mwy ohonyn nhw i ddod cyn diwedd y tymor!
"Bydd sylwebaethau byw o'r mwyafrif llethol o gemau Abertawe i'w clyweb ar Radio Cymru yn y de-orllewin (FM yn unig) drwy gydol y tymor."